Y Dyddiau Cynnar

1111-1666

Y mae eglwys wedi bod ar y safle hwn, yn gysegredig i Bened Sant (neu Benedict), ers y ddeuddegfed ganrif. 

Cyfeiriodd Shakespeare ati yn Twelfth Night: Feste, y digrifwr, wrth holi’r Dug Orsino i ategu trydydd darn o arian i’r ddwy mae’n eu cynnig iddo, yn ei atgofio “the bells of St Bennet, sir, may put you in mind – one, two, three”. 

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, am fod porth Castell Baynard wrth lan yr afon, mae’n bosib y derbyniodd Anne Boleyn a Lady Jane Grey eu defodau olaf yn Bened Sant ar eu ffordd i’r Tŵr i gael eu dienyddio. Yr oedd yr afon Tafwys bryd hynny wrth gwrs yn brif dramwyfa ac mae’n bosib y gorffennodd yr anffodusion eu siwrnai mewn cwch.

Ers 1555, mae Bened Sant wedi bod yn eglwys y College of Arms, gyda’i bencadlys dros y ffordd ar Stryd y Frenhines Victoria. Mae’r Coleg yn rhoi arfau bonedd i’r rhai yr ystyried yn deilwng ohonynt. 

Ym 1652, claddwyd yn Bened Sant wrth ymyl ei rieni Inigo Jones, y pensaer a dyfeisiwr masciau’r theatr, yn brif adnabyddus am gynllunio y Banqueting House yn Whitehall. 



 

1111

The first of several churches dedicated to St Benedict (known as St Benet) is built on this site.

1555

St Benet becomes the church of the College of Arms.

1640

The Reredos, Altar and Altar rails are installed. They all remain in place today.

1652

Leading architect and stage designer Inigo Jones is buried in the church.

1666

The Great Fire of London destroys the church of St Benet.