Ymweld â Ni

Dydd Sul

Y ffordd orau i ymweld â Bened Sant yw i ymuno â ni ar gyfer ein gwasanaeth boreol ar y Sul. Rydym yn cyfarfod bob wythnos am 11yb. Y mae croeso i bob safon o'r Gymraeg, o'r rhugl i'r dechreuwr - mae digon ohonom rywle rhwng y ddau. Mae cyfieithiad Saesneg wedi ei gynnwys o fewn trefn y gwasanaeth.

Amseroedd Agor

Ar wahân i'r gwasanaethau, mae'r eglwys fel arfer ar agor o 11yb hyd 3yh ar ddydd Iau, pan fydd gwirfoddolwyr o Gyfeillion Eglwysi y Ddinas ar gael i ateb cwestiynau ac i'ch dangos o amgylch yr eglwys.

Beth Sydd i’w Weld?

Mae adeilad hanesyddol yr eglwys yn fach ond yn brydferth. Mae’r tu fewn bron yn sgwâr mewn siâp, gydag oriel ar un ochr. Mae rhan fwyaf o’r adeilad, y tu fewn a’r tu allan, fel y gwnaeth Christopher Wren ei gynllunio dros 300 o flynyddoedd yn ôl.

Ein Cyfeiriad

Guild Church of St Benet
Paul’s Wharf
Queen Victoria Street
London
EC4V 4ER

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Tanddaearol: St Paul’s (Llinell Central)

Mansion House a Blackfriars (Llinell District/Circle)

Bws: Arhosfan bws 388 gerllaw

Trȇn: Blackfriars (City Thameslink)